Page 12 - Demo
P. 12


                                     local // lleol12. The EGO®Wel, mae’r Nadolig yn agosáu felly mi fydd ‘na gyfle gobeithio i swatio o flaen tanllwyth o dân a gwylio rhywfaint o deledu! Beth am i mi roi ychydig o awgrymiadau o ffilmiau Nadolig gwerth chweil i chi! Dwi am drio cyfyngu fy hun i bump ffilm gan ychwanegu un ffilm Gymraeg sydd wedi cael ei lled anghofio yr hyn a elwir yn ‘guilty pleasure’!Let’s get the mince pies out, make a warm mug of coffee and settle down in front of the small/big television screen to watch some festive favourites!It’s a Wonderful Life (1946)Ar ben y rhestr heb ‘ob nac osibai’ mae ffilm ryfeddol Frank Capra gyda James Stewart a Donna Reed ar eu gorau a Henry Travers fel yr angel gwarcheidiol Clarence Odbody yn rhoi perfformiad bythgofiadwy! Dwi ddim am fynd trwy’r stori gyda chi ond dyma hanes dyn da a chywir sy’n brwydro yn erbyn y drwg, yn torri ei galon; yn cyrraedd y gwaelod cyn dathlu’r hyn sydd ganddo. Ar ddydd Nadolig 1945 mae George Bailey yn ystyried hunanladdiad ond fel y dywed Clarence: “Strange, isn’t it? Each man’s life touches so many other lives. And when he isn’t around he leaves an awful hole, doesn’t he?”My favourite Christmas film without a shadow of doubt – and when ‘Auld Lang Syne’ is sung before the closing credits I’m reduce to uncontrollable tears every single time!Miracle on 34th Street (1947)Dwi ddim yn gwybod yn union pam fod y ffilm hon yn llwyddo! Mae’r actio yn wych gydag Edmund Gwenn yn rhoi perfformiad rhyfeddol a Maureen O’Hara yn dod â swyn i’r sioe - fel y bu iddi lwyddo ei wneud ym mhob un o’i ffilmiau dybiwn i. Dim llawer o stori; dim llawer yn digwydd – ond eto mae cyfaredd y Nadolig yn taro’r sinig mwyaf yn ein plith!Possibly Edmund Gwenn’s finest hour as an actor playing the part of Kris Kringle who in turn plays the part of Father Christmas at Macy’s New York City store on 34th Sreet.Scrooge (1951)Bu farw fy nhad pan oeddwn yn blentyn wyth mlwydd oed a fy mrawd yn bum mlwydd English to followFfilmiau’r Nadolig Gan // By Dilwyn Roberts
                                
   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16