Page 13 - Demo
P. 13


                                    The EGO® 13.bod llywodraeth yr UD yn anghyfeillgar i Tsieina, mae pobl America yn ffrindiau i’r Tsieineaid. Rwy’n rhoi hwn i chi i nodi’r cyfeillgarwch rhwng pobl Tsieina a phobl America’. Ar y dydd canlynol bu i’r ‘hippie’ o Americanwr gyflwyno Crys T coch, gwyn a glas i Zhuang gyda’r geiriau ‘Let It Be’, geiriau o gân The Beatles, arno. Ar Ebrill y 6ed roedd y bencampwriaeth yn agor ac erbyn Ebrill y 10fed roedd criw o gyd-chwaraewyr Glenn Cowan yn croesi i Tsieina o Hong Kong ar gyfer wythnos o gemau hwyl – y ddirprwyaeth gyntaf o America i ymweld â’r brif ddinas ers 1949!Ar Chwefror 28, 1972 ymwelodd yr Arlywydd Nixon a Henry Kissinger â Shanghai, ble cyhoeddwyd y Communiqué Shanghai rhwng yr Unol Daleithiau a Tsieina oedd yn nodi y byddai’r ddwy wlad yn gweithio tuag at normaleiddio eu cysylltiadau.Sgwn i beth oedd yn mynd trwy feddwl Roy Evans wrth dystio i’r bennod rhyfeddol hon yn hanes gwleidyddiaeth yr 20fed Ganrif. Yn anffodus, mae ei hunangofiant ‘Colour Pins on a Map: Around the World with 
                                
   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17