Page 20 - Demo
P. 20
Hwyl yr Haf yn Theatr Felinfach Summer of Fun at Theatr Felinfach local // lleol20. The EGO®Dewch i ymlacio fewn i tymor yr haf gyda Theatr Felinfach. Cerddoriaeth, perfformiadau byw a sioeau i blant a theuluoedd.Talentau pedair o artistiaid gwerin amlycaf Cymru, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James, sef Pedair, fydd yn swyno muriau’r Theatr ar y 23ain o Fehefin gyda’u gwestai arbennig, Doreen Lewis.Braf yw croesawu Cwmni Theatr Arad Goch yn ôl yr haf hwn gyda sioe i blant Jemima. Cynhyrchiad cyffrous, newydd am un o fenywod pwysicaf yn hanes Cymru - Jemima Nicholas. Cyfle gwych i ddod â’r trip ysgol i ddathlu diwedd y flwyddyn neu dewch â’ch ffrindiau a theulu. Mi fydd perfformiad am 1:00yp ar y 26ain o Fehefin a 10:00yb ar y 27ain o Fehefin. Addas i oed 7+.Bydd y grŵp drama o Lambed, Stage Goat yn cynnal perfformiad o Oliver Twist, addasiad o’r nofel gan Charles Dickens ar y 14eg a’r 15fed o Orffennaf. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu cwmni dawns lleol sef Laura McCabe Dance Academy ar y 22ain o Orffennaf. Diwrnod o hwyl i blant a theuluoedd gyda Taking Flight Theatre fydd yn Theatr Felinfach 28ain o Orffennaf. Cyfle i fwynhau gweithgaredd crefft a pherfformiad o First Three Drops sef antur hudolus a doniol gan Elis Griffiths, yn seliedig ar chwedl Taliesin. Perfformiad yn y Gymraeg am 11:00yb a Saesneg am 2:00yp